Math | bryn, parc |
---|---|
Ardal weinyddol | Bwrdeistref Llundain Camden |
Daearyddiaeth | |
Sir | Llundain Fwyaf (Sir seremonïol) |
Gwlad | Lloegr |
Uwch y môr | 65 metr |
Cyfesurynnau | 51.5396°N 0.1608°W |
Cod OS | TQ282838 |
Cod post | NW1, NW3, NW8 |
Mae Bryn y Briallu (Saesneg: Primrose Hill) yn fryn 256 troedfedd (78 m) ar ochr ogleddol Regent's Park yng ngogledd Llundain, Lloegr, ble ceir golygfa wych dros Lundain. Hwn yw'r bryn agosaf i ardal Soho, cartref Iolo Morganwg gynt ac i'w gyfoeswr William Blake. Yma ym 1792 y cynhaliwyd Gorsedd y Beirdd gyntaf Iolo Morganwg. Dewiswyd Alban Hefin neu Hirddydd Haf, sef canol haf, ar gyfer seremoni gyntaf Gorsedd Beirdd Ynys Prydain. Roedd y seremoni yn defnyddio deuddeg carreg o'i boced. Wedyn daeth Derwyddon Seisnig i'r lle a dechrau'r 'Primrose Hill Druids', y grwp neo-baganaidd sy'n dal i fynychu Côr y Cewri ar Alban Hefin, ond yn dychwelyd i Fryn y Briallu ym mis Medi bob blwyddyn i ddathlu y cyhydnos.
Adferwyd y briallu i'r bryn yn 2008, ac anrhydeddwyd Iolo Morganwg gan Orsedd Beirdd Ynys Prydain ym Mehefin 2009; gosodwyd carreg yno a chynhaliwyd seremoni'r Orsedd i gofio diwrnod sefydlu'r Orsedd. Cadeirwyd y seremoni gan Huw Edwards.
Mae gan y bryn ei le yn hanes Gorsedd y Beirdd. Cynhaliwyd gorsedd gyntaf o'r Beirdd Iolo Morganwg yma ar 21 Mehefin 1792, ar Alban Hefin. Roedd y seremoni yn defnyddio deuddeg carreg o boced Iolo. Yma y clywyd am y tro cyntaf yn gyhoeddus yr ymadrodd "yn llygad haul a wyneb goleuni" ac yma hefyd y gwelwyd gyntaf roi'r cleddyf noeth yn y wain fel arwydd o heddwch. Cynhaliwyd ail seremoni gan Iolo ar 22 Medi yn yr un flwyddyn. Gwgai'r awdurdodau at y gweithgareddau hyn. Roedd Iolo yn heddychwr a gweriniaethwr ac yn un o'r rhai a safodd yn gyhoeddus yn erbyn y rhyfel â Ffrainc ac o blaid y Chwyldro Ffrengig. Mewn canlyniad, gwaharddwyd Iolo Morganwg rhag cynnal rhagor o'i orseddau ar Fryn y Briallu.[1]
Fel Regent's Park i lawr y bryn, mae Bryn y Briallu yn rhan o'r Parciau Brenhinol ers 1841. Mae'r maesdref gerllaw yn dyddio o'r cyfnod Fictoraidd. Mae Bryn y Briallu yn un o ardaloedd ffasiynol Llundain erbyn heddiw ond mae awyrgylch 'pentref dinesig' yn parhau. Ym mis Hydref 1678 llofruddiwyd Edmund Berry Godfrey ar y bryn.
Mae Bryn y Briallu yn ymddangos mewn cerdd gan William Blake:
Dringodd Blake i ben Bryn y Briallu a honnodd iddo gael sgwrs gydag 'Ysbryd yr Haul". Credodd Blake y byddai un o bileri'r Teml Caersalem Newydd yn sefyll ar y Bryn.
Dwy filltir i ffwrdd mae Poland Street, Soho, lle roedd Iolo Morgannwg a Blake yn byw a chymdeithasu ar un adeg.
Cysylltir nifer o enwogion â'r Bryn, gan gynnwys: