Beulah
Mathpentref, cymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth1,627 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCeredigion Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd5,063.57 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.0873°N 4.5011°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000360 Edit this on Wikidata
Cod OSSN289461 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auElin Jones (Plaid Cymru)
AS/auBen Lake (Plaid Cymru)
Map
Am leoedd eraill o'r un enw, gweler Beulah (gwahaniaethu).

Pentref bychan a chymuned yng Ngheredigion yw Beulah("Cymorth – Sain" ynganiad ). Saif hanner ffordd rhwng tref Castell Newydd Emlyn a phentref glan-môr Aberporth ar Fae Ceredigion.

Mae ardal Cyngor Cymuned Beulah yn cynnwys pentrefi Bryngwyn, Llandygwydd, Betws Ifan, Cwm Cou a'r rhan fwyaf o bentref Cenarth ar lannau afon Teifi ac yn gartref i dros 1,500 o bobl (1,586, Cyfrifiad 2001), 54% ohonynt yn siaradwyr Cymraeg, gyda 45% o'r boblogaeth wedi eu geni y tu allan i Gymru (Cyfrifiad 2001). O blith y trigolion sydd yn enedigol o Gymru, mae bron i 90% yn Gymry Cymraeg (cyfeiriad yn eisiau), felly mae'r cyferbyniad diwylliannol ac ieithyddol rhwng y brodorion a'r mewnfudwyr yn amlwg iawn.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Elin Jones (Plaid Cymru)[1] ac yn Senedd y DU gan Ben Lake (Plaid Cymru).[2]

Mannau o ddiddordeb

Mae'r ardal Cyngor Cymuned yn cynnwys melin ddŵr Felin Geri yng nghwm coediog y Ceri, a rhaeadrau Cenarth.

Cyfrifiad 2011

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Beulah, Ceredigion (pob oed) (1,627)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Beulah, Ceredigion) (841)
  
52.9%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Beulah, Ceredigion) (903)
  
55.5%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Beulah, Ceredigion) (283)
  
39.3%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau

  1. Gwefan Senedd Cymru
  2. Gwefan Senedd y DU
  3. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  4. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  5. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.