Math | tref, ardal boblog |
---|---|
Poblogaeth | 1,410, 1,329, 1,035 |
Daearyddiaeth | |
Sir | De Cymru Newydd, Tamworth Regional Council, Tamworth Regional Council, Barraba |
Gwlad | Awstralia |
Uwch y môr | 493 metr |
Yn ffinio gyda | Upper Horton, Lindesay, Woodsreef, Red Hill, Longarm, Mayvale, Banoon, Gundamulda, Ironbark, Cobbadah |
Cyfesurynnau | 30.3817°S 150.6178°E |
Cod post | 2347 |
Pentref yn y rhanbarth Lloegr Newydd yn Ne Cymru Newydd, Awstralia yw Barraba. Oedd y pentref canolfan y weinyddol sir Barraba Shire er hynny cyfunwyd a’r pentref a’r mwyafrif o’r sir i Gyngor y Rhanbarthol Tamworth (Tamworth Regional Council) ym 1994. Mae Barraba yn Rhanbarth yr Aderyn Pwysig Bundarra-Barraba (Bundarra-Barraba Important Bird Area) sy’n gwarchod cynefin yr aderyn anturiedig Melysor eurymylog (Anthochaera phrygia).
Mae Barraba ar 477 cilometr yn ogledd-orllewinol o Sydney, ar 548 cilometr yn ddeau-orllewinol o Frisbane ac ar 90 cilometr yn ogleddol o Damworth sydd y ddinas agosaf. Y mae’r Afon Manilla yn rhedeg wrth y pentref. Leolir Barraba ar y ffordd twristiaeth Llwybr Ymchwilwyr (Fossickers’ Way) ac y mae Barraba yn gorwedd yn y mynyddres Nandewar Range.
Oedd yn byw’r pobl cynfrodorol y Kamilaroi/Gamileraay yn yr ardal cyn dyfodiad yr Ewropeaid.[1] Oedd yr Ewropead cyntaf yn yr ardal y fforiwr a botanegwr Allan Cunningham a oedd wedi cyrraedd yr ardal ym 1827.[2] Sefydlwyd y fferm cyntaf yn yr ardal, Barraba Station, ym 1837 neu ym 1838.[1][3] Tirfesurwyd lle y pentref dyfodol ym 1852.[4]
Helpodd darganfyddiad yr au y pentref cynyddu.[4] Agorwyd swyddfa’r post cyntaf ym 1856[5] ac agorwyd yr ysgol cyntaf ym 1861.[1] Adeiladwyd yr eglwys Anglicanaidd ym 1876[3] ac agorwyd hefyd y banc cyntaf ym 1876.[3] Adeiladwyd y gwesty cyntaf, The Commercial Hotel, ym 1878[3] ac adeiladwyd llys y barn ym 1881.[3] Cyhoeddwyd Barraba pentref ym 1885.[3][4] Adeiladwyd y ysbyty ym 1891[3] ac adeiladwyd yr eglwys Fethodistaidd ym 1898.[3]
Dechreuodd cyhoeddi y papur lleol, The Barraba Gazette, ym 1901.[3] Adeiladwyd yr eglwys Pabyddol ym 1906.[3] Cyrhaeddodd lein y rheilffordd i’r pentref ym 1908[6] er hynny rhedodd y trên terfynol i Farraba ym 1983 a chaewyd lein y rheilffordd ym 1987.[7] Adeiladwyd yr Argae Connors Creek ym 1933 er gwella darpariaeth y dŵr i’r pentref.[3]
Ffeindiwyd copr ar Gulf Creek ym 1889 a sefydlwyd y mwynglawdd cyntaf ym 1892. Ar 22 cilometr yn ddwyreiniol o Farraba yw Gulf Creek. Sefydlwyd hefyd pentrefan y adeiladwyd gwesty, ysgol a swyddfa bost ynddo.[8] Oedd y mwynglawdd y mwynglawdd cupr mywaf yn Ne Cymru Newydd ym 1903 a chynhwysodd y pentrefan 300 preswyliwr. Caewyd y mwynglawdd yn y degawd 1930 a chaewyd swyddfa’r bost ym 1966.[5] Gadawyd y pentrefan.
Mwyngloddid asbestos o 1919 i 1983 ar Woodsreef. Pentrefan ar 15 cilometr yn ddwyreiniol o Farraba oedd Woodsreef. Helaethwyd y mwynglawdd ym 1974. Cynhyrchodd y mwynglawdd 500,000 tunnell o asbestos gwyn.
Gadawod y mwynglawdd gwag 75,000,000 tunnell o graig diffaith a 25,000,000 tunnel o asbestos gwyn. Mae’r pentwr abestos gwyn yn gorchuddio 43 hectar a y mae hi yn cyrraedd at 70 metr yn uchel.[9]
Disgrifiodd adroddiad teledu yn 2008 am y pryder cynyddol y bo yr asbestos gwag risg iechyd ar y preswylwyr ac ar y ymwelwyr.[10] Galwodd Sefydliad y Clefydau Asbestos Awstralia (The Abestos Diseases Foundation of Australia) y rhaid lle y mwynglawdd yn cael ei ailsefydlu.[9] Galwodd y Sefydliad y rhaid bod y cyhoedd yn gwahardd dreiddio lle y mwynglawdd.
Croesodd ffordd cyhoeddus lle y mwynglawdd hyd caewyd y ffordd hon yn 2013. Gadawyd y pentrefan.
Cynhaliodd Gwasanaeth y Iechyd o Hunter-New England (Hunter-New England Health) astudiaeth pwysig am goblygiad iechyd i’r cymuned Barraba.[9] Cwblhawyd y astudiaeth ond nid yw yr astudaieth hon wedi cael ei cyhoeddi.[11]
Sefydlwyd mwynglawdd y pridd diatom (diatomaceous earth) ym 1982.
Mae pobl yn gallu ffeindio pyritau, maen iasbis, garned, zeolite, cwarts coch, cwarts melyn a chwarts brown yn yr ardal. Mae pobl yn gallu ffeindio hefyd ffosilau.
Ffermir eidonnan cig, defaid merino a gwenith yn yr ardal.
Mae Barraba yn profi hafau poeth a llaith a gaeafau oed a sych. 41.8°C yw’r tymheredd cofnodedig uchaf a -9.4°C yw’r tymheredd cofnodedig lleiaf. 688.7 milimetr yw’r glawiad blynyddol cyfartalog cofnodedig uchaf a cwympodd 25 Ionawr 1955.[12]
Cyn adeilawiath yr Argae Split Rock tynnai’r pentref ddŵr o’r Afon Manilla, y Nant Barraba a’r Argae Connors Creek.[13] Pan lleihawyd y tarddiadau hynny tynnai’r pentref ddŵr o ffynhonnau argyfwng.[14]
Adeiladwyd yr Argae Split Rock ym 1988 a chwblhawyd piblin o’r argae i’r pentref yn 2015.
|deadurl=
ignored (help); Check date values in: |accessdate=, |archivedate=
(help)
|accessdate=, |date=
(help)
|accessdate=, |date=
(help)
|accessdate=
(help)