Awrora
Mathffenomen optegol, proses astroffiseg, electro-sêr Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Goleuni naturiol yn wybren y Ddaear, i'w gweld yn bennaf ym mhegynau'r Ddaear (o gwmpas yr Arctig a'r Antarctig, yw awrora (lluosog: awrorau). Yn y gogledd, mae weithiau yn cael ei gyfeirio ato fel gwawl y gogledd, goleuni'r gogleddffagl yr arth neu goleufer (aurora borealis). Yn y de, mae'n cael ei alw'n gwawl y de neu goleuni'r de (aurora australis).

Mae awrorau yn cael eu cynhyrchu pan fydd y magnetosffer yn cael ei gyffroi gan wynt solar i'r graddau bod llwybr gronynnau sydd wedi'u gwefru yn y gwynt solar a'r plasma magnetosfferig, yn bennaf ar ffurf electronau a protonau, yn eu hyrddio i'r uwch atmosffer (thermosffer/ecsosffer) oherwydd maes magnetig y Ddaear, ble mae eu hegni yn cael ei golli.

Mae'r ïoneiddio a chyffroad y cyfansoddion atmosfferig o ganlyniad yn pelydru goleuni o wahanol liwiau a chymhlethdod. Mae ffurf yr awrora, sydd i'w weld o fewn i stribynau o amgylch y pegynau, hefyd yn dibynnu ar gyflymiad y groynnau sy'n cael eu hyrddio. Mae protonau fel arfer yn cynhyrchu tywyniadau optegol fel atomau hydrogen digwyddol ar ôl ennill electronau o'r atmosffer. Mae awrorau proton fel arfer i'w gweld ar ledredau is.[1]

Gwawl y De (Aurora australis) o loeren yr ISS, 2017

Llygad-dystion Cymreig

Williams Pantycelyn yn disgrifio gweld Awrora ym 1774[2]

Gwelir Awrora'r Gogledd (borealis) yn weddol rheolaidd o Gymru. Dyma ystod o enghreifftiau:

Dwi'n deall mai eithaf anghyffredin ydy gweld yr aurora borealis o Gymru, ond wrth lwc, mi ydwyf wedi, a hyd yn oed pe bai neb yn fy nghredu, bydd y cof o'r peth gennyf nes i'r cof mynd yn wan"[6]

(Digwyddodd y goleuni hwn ar anterth y cylch smotiau haul o osgled 119.2.)[10]

Llenyddiaeth

1769: Cerdd am y goleuni diweddar a welwyd yn yr awyr, a chomed a ymddangosodd yn 1769 gyda phle i achub Lloegr rhag Pabyddiaeth:

Beth yw gwaith, yr arwŷddion maith, sy’n lanwaith y leni?
Y Seren gynffon, ar goleuni;
Ond rhybŷdd hynod o’n trueni.
Gwelwn rybŷdd coeliwn rŷwbeth,
O air Duw’n dirion cyn bradwri’eth,
Dia y dâwo’i lidiog lâw, i’s awŷr frâw,
’Syw’eth;
Fel pobl Ninif gwnawn wahaniaeth, [Jonah, iii. 10]
Mae Duw’n wir hael arbedwr helaeth. [Esay, iv. 7.]
THO. EDWARDS a’i cant 1770 (Twm o’r Nant)

Nid yw’n glir a yw’r baledi sy’n cyfeirio at yr aurora borealus yn deilllo o brofiadau Cymreig ynteu a ydynt wedi eu haddasu o ffynonellau Seisnig.[4]

Etymoleg

Mae'r gair "awrora" yn tarddu o'r gair Lladin am "gwawr", gan fod cred ar un adeg mai golau cyntaf y wawr oedd awrorau.

gwawr
[H. Wydd. fáir ‘codiad haul, y dwyrain’: < IE. *u̯ōsri- o’r gwr. *au̯es- ‘disgleirio’ fel yn y Llad. aurōra, Gr. ἠώς, ἔως]
eb.g. ll. gwawriau, gwawroedd.
1. a Toriad dydd, codiad haul, y golau cyntaf ar ôl y nos, cyfddydd, glasddydd, plygain, y bore bach; goleuni sy’n cynyddu, llewyrch, hefyd yn ffig.[12]

Geirfa

Cyfeiriodd Sion Roberts [5] at y Northern Lights fel: Ffagl yr Arth gan Morris (1910).[13] Mae'r enw yng Ngeiriadur yr Academi hefyd (SW Wales meddai). Cyfeirio at yr arth wen, polar bear ... neu Ursa Major tybed?

Cyfeiriadau

  1. "Simultaneous ground and satellite observations of an isolated proton arc at sub-auroral latitudes". Journal of Geophysical Research. 2007. Cyrchwyd 5 Awst 2015.
  2. LlGC - "Aurora Borealis neu, Y goleuni yn y gogledd fel arwydd o lwyddiant yr efengyl yn y dyddiau diweddaf "
  3. Dyddiaduron William Bulkeley, Brynddu, Llanfechell, Môn (gyda chaniatad Adran Archifau a Chasgliadau Arbennig Prifysgol Bangor)
  4. 4.0 4.1 C. Charnell-White, "Literary Responses to extreme Weather in eighteenth Wales" (heb ei gyhoeddi)
  5. Dyddiadur Defi Lango (gol. Goronwy Evans)
  6. Lari Parc, Bwletin rhif 7, tud. 3; [1]
  7. (Flickr) [2]
  8. Olwen Evans ym Mwetin Llên Natur rhifyn 72; [3]
  9. Dyddiadur Owen T. Griffiths, Rhos y Ffordd, Llangristiolus yn Nhywyddiadur Llên Natur; [4]
  10. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-10-17. Cyrchwyd 2019-08-11.
  11. 11.0 11.1 Dyddiadur DO Jones, Ty Uchaf, Padog (gyda chaniatad papur bro Yr Odyn, a'r teulu)
  12.  gwawr. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 20 Mawrth 2021.
  13. William Meredith Morris, A glossary of the Demetian dialect of north Pembrokeshire (Tonypandy, 1910)