Yr Awen yw ysbrydoliaeth farddol yn y traddodiad barddol Cymraeg. I ryw raddau mae'n cyfateb i'r muse clasurol ac yn perthyn i draddodiadau cyffelyb a geir gan bobloedd Indo-Ewropeaidd eraill.

Roedd y beirdd Rhufeinig fel Ofydd yn cyfeirio'n aml at yr Awen yn eu cerddi. Dyma Ofydd yn yr Ars Amatoria er enghraifft:

Est deus in nobis et sunt commercia caeli:
Sedibus aetheritus spiritus ille venit.
('Y mae duw ynom, ac ymwneud â'r nefoedd:
O'r trigfannau fry y daw'r ysbrydoliaeth honno)

Mae Nennius yn cyfeirio at fardd cynnar o'r enw Talhaearn Tad Awen yn ei Historia Brittonum. Cyfeiria Gerallt Gymro at yr awenyddion, beirdd neu broffwydi a oedd yn datgan daroganau dan ysbrydoliaeth yr Awen.

Roedd yn arfer gan y Cynfeirdd a'r Gogynfeirdd gyfarch yr Awen ar ddechrau cerdd, naill ai'n uniongyrchol neu i'w gofyn fel rhodd gan Dduw. Yn aml fe'i cysylltir â phair Ceridwen, ffynhonnell ysbrydoliaeth a gwybodaeth y Taliesin chwedlonol. Er enghraifft:

'Cyfarchaf i'm Rhên cyfarchfawr awen,
Cyfrau Cyridfen, rwyf barddoni,
Yn null Taliesin yn nillwng Elffin.'

(Llywarch ap Llywelyn (Prydydd y Moch), c. 1173-1220)

Dadl yr Awen

Ond nid oedd pawb yn derbyn tarddiad "paganaidd" yr Awen. Eisoes yng ngwaith Beirdd y Tywysogion gwelir tueddiad gan rai beirdd i bwysleisio bod yr Awen yn tarddu o'r Duw Gristnogol. Rhai canrifoedd yn ddiweddarach ymosododd y bardd Siôn Cent ar yr "Awen baganaidd" gan ei gwrthwynebu â'r "Awen Gristnogol." Cyrhaeddodd y ddadl ei huachafbwynt ar ddiwedd yr 16g yn yr ymryson barddol enwog rhwng Edmwnd Prys (15431623), archddiacon Meirionnydd, a'r bardd Wiliam Cynwal (m. 1587 neu 1588).

Llyfryddiaeth

Gweler hefyd

Eginyn erthygl sydd uchod am lenyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.