Antony Carr | |
---|---|
Ganwyd | Antony David Carr ![]() 6 Chwefror 1938 ![]() Dover ![]() |
Bu farw | 30 Ebrill 2019 ![]() Bangor ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | hanesydd, academydd ![]() |
Cyflogwr |
|
Priod | Glenda Carr ![]() |
Gwobr/au | Cymrawd y Gymdeithas Hanesyddol Frenhinol, Cymrawd Gymdeithas yr Hynafiaethwyr ![]() |
Hanesydd yn arbenigo ar hanes Cymru yn yr Oesoedd Canol oedd Antony D. Carr (6 Chwefror 1938 – 30 Ebrill 2019).[1][2]
Treuliodd ei flynyddoedd cynnar yn Ynysoedd y Falklands ac ar ôl hynny ym Mauritius. Cafodd ei fagu ym Mhorthaethwy a mynychodd Ysgol Ramadeg Biwmares a Choleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor.[3] Graddiodd gyda gradd BA Hanes ym 1959. Ym 1963 cafodd ei radd MA am astudiaeth o uchelwyr Edeirnion rhwng 1282 a 1485. Enillodd PhD ym 1976 am ei draethawd ar deulu'r Mostyn a'u hystadau yng Ngogledd Cymru rhwng 1200 a 1642.
Pan oedd yn 18, enillodd Carr y rhaglen gwis radio'r BBC 'Brain of Britain' ym 1956, ac ef oedd enillydd ieuengaf erioed y gystadleuaeth hon. Yn 24 oed, aeth ymlaen i ennill teitl 'Top Brain of Britain', cystadleuaeth rhwng enillwyr yr ornest dros y blynyddoedd. Roedd yn gweithio mewn archifdy yn Essex ar y pryd.
Ym 1964 ymunodd â staff Adran Hanes a Hanes Cymru CPGC Bangor lle daeth yn uwch ddarlithydd Hanes Cymru yn nes ymlaen ac yna yn Athro Hanes Cymru'r Oesoedd Canol. Ymddeolodd yn 2002 a daeth yn Athro Emeritws yn Ysgol Hanes ac Archaeoleg, Prifysgol Bangor.
Roedd yn briod â'r hanesydd llên Glenda Carr ac roedd ganddynt ddau o blant, Richard a Gwenllïan.[4] Yn dilyn ei angladd roedd gwasanaeth cyhoeddus iddo yn Eglwys Gadeiriol Bangor ar ddydd Sadwrn 11 Mai am 2 o'r gloch y prynhawn.
Yn ogystal â nifer o erthyglau ar hanes Cymru yn yr Oesoedd Canol mewn cylchgronau hanes, mae'n awdur :