Angle
Mathpentref, cymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth337 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Benfro Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd1,227.17 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.6847°N 5.0919°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000934 Edit this on Wikidata
Cod OSSM8602 Edit this on Wikidata
Cod postSA71 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auSamuel Kurtz (Ceidwadwyr)
AS/auSimon Hart (Ceidwadwr)
Map

Pentref a chymuned yn Sir Benfro yw Angle.[1] Mae yn y rhanbarth Saesneg ei hiaith, ac nid ymddengys fod enw Cymraeg ar y pentref. Saif yn ne-orllewin y sir, ar ochr ddeheuol Afon Cleddau, gyferbyn ag Aberdaugleddau ac i'r gorllewin o dref Doc Penfro.

Ceir gorsaf bad achub yma, dwy dafarn, ysgol gynradd, swyddfa'r post ac eglwys, ac mae Llwybr Arfordir Sir Benfro yn mynd heibio'r pentref.

Machlud dros yr aber o Angle
"Tŵr Peles", hen amddiffynfa yn Angle

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Samuel Kurtz (Ceidwadwyr)[2] ac yn Senedd y DU gan Simon Hart (Ceidwadwr).[3]

Cyfrifiad 2011

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[4][5][6][7]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Angle (pob oed) (337)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Angle) (35)
  
10.6%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Angle) (223)
  
66.2%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed(Angle) (61)
  
40.4%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
  2. Gwefan Senedd Cymru
  3. Gwefan Senedd y DU
  4. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  5. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  6. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  7. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen marw]