Abermenai
Mathpenrhyn Edit this on Wikidata
Cysylltir gydaGruffudd ap Cynan Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirRhosyr Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
GerllawAfon Menai Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.1269°N 4.3314°W Edit this on Wikidata
Map

Abermenai yw pen gorllewinol Afon Menai. Ar ochr ogleddol y Fenai, ar Ynys Môn, mae Pwynt Abermenai yn ymestyn tua'r de, gan adael dim ond darn cul o fôr rhwng pen deheuol y pwynt a Chaer Belan ar ochr Arfon i'r Fenai. I'r dwyrain o Bwynt Abermenai, ceir Traeth Abermenai, hefyd Traeth Melynog, ardal helaeth o fwd sy'n ymestyn hyd aber afon Braint. I'r dwyrain o Gaer Belan ar yr ochr draw mae aber y Foryd. Saif yng nghymuned Rhosyr.

Hanes

Ceir sawl cyfeiriad at Abermenai yn hanes Cymru. Glaniodd Gruffudd ap Cynan yma yn 1075 wedi croesi o Ddulyn gyda mintai o filwyr hur o Lychlynwyr i geisio hawlio teyrnas Gwynedd. Yn 1144 glaniodd Cadwaladr ap Gruffudd, brawd Owain Gwynedd, yma gyda llynges yr oedd wedi ei llogi gan y Daniaid o ddinas Dulyn. Y flwyddyn cynt, roedd Cadwaladr wedi ei yrru o'i diroedd gan Owain oherwydd ei ran yn llofruddiaeth Anarawd ap Gruffudd, tywysog Deheubarth, a bwriad Cadwaladr oedd defnyddio'r Daniaid i geisio gorfodi Owain i dychwelyd ei diroedd. Ymddengys i Gadwaladr adael y Daniaid a dod i gytundeb a'i frawd.

Ceir cyfeiriad at Abermenai ym mhedwaredd cainc y Mabinogi hefyd.

Cyfeiriadau