Math | offeryn |
---|---|
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae'r abacws (ll. abacysau), a elwir hefyd yn 'ffrâm gyfri', yn offeryn cyfrifo a ddefnyddiwyd yn Asia, Ewrop, Tsieina a Rwsia, canrifoedd cyn mabwysiadu'r System rhifolion Hindŵ-Arabaidd. Ymddangosodd yr abacws yn gyntaf oddeutu 2700–2300 CC yn Swmer, Gorllewin Asia[1]. Heddiw, mae'r abacws yn aml yn cael ei lunio fel ffrâm fambŵ gyda gleiniau'n llithro ar wifrau, ond yn wreiddiol, roeddent yn ffa neu'n gerrig wedi'u symud mewn rhigolion yn y tywod neu ar ford pren, carreg, glai neu fetel. Mewn rhai gwledydd cafodd ei olynnu gan y cyfrifiannell mecanyddol, ac yna'r cyfrifiannell electronig, ond yn 2019 roedd yn parhau i gael ei ddefnyddio mewn rhai gwledydd.
Ceir amrywiaeth eang o ran cynllun a maint yr abacws. Pwrpas yr abacysau 10-glain, yn bennaf, yw i gynorthwyo addysgu rhifyddeg. Fe'u defnyddir heddiw yn aml mewn rhai o gyn-wledydd Sofiet yn yr ysgolion, ac yng Ngorllewin Ewrop, Tsieina ac Affrica.[2] Mae'r math 'soroban' (a'r 'suanpan') yn Japan, wedi cael ei ddefnyddio i gyfrifo symiau cymhleth iawn. Gall pob abacws, gyflawni sawl gweithrediad gwahanol e.e. adio, lluosi neu gyfrio'r Ail isradd. Mae rhai o'r dulliau'n gweithio gyda rhifau annaturiol e.e. 1.7 neu 3⁄4.
Ar 12 Tachwedd 1949 cynhaliwyd cystadleuaeth ffurfiol rhwng yr abacws a'r cyfrifiannell, yn Tokyo. Defnyddiwyd y math soroban gan Kiyoshi Matsuzaki a chyfrifiannell electronig gan Thomas Nathan Wood, aelod o luoedd arfog UDA. Rhoddwyd marciau am bedwar math o broblem (y pedwar gweithrediad rhifyddol) a phumed problem a oedd yn cyplysur 4 gweithrediad, gyda chyflymder a chywirdeb yn brif meincnodau. Enillodd yr abacws 4 o'r problemau a'r cyfrifiannell un.[3] Yn ôl y papur newydd Stars and Stripes, roedd buddugoliaeth yr abacws yn glir a phendant, ac wedi'r digwyddiad hwn: "the machine age took a step backwards....".
Gwyddom i'r gair "abacws" gael ei ddefnyddio cyn yr Oesoedd Canol, pan ymddangosodd mewn dofen Saesneg. Tarddiad y gair yw'r gair Groeg ἄβαξ abax sef bwrdd neu ford heb goesau.[4][5][6] Cred eraill fod y gair yn hŷn na hyn ac yn perthyn i iaith y Ffenicia, (Libanus a Syria heddiw), ʾābāq (אבק), "llwch" (ay'n awgrymu mai llwch ar fwrdd oedd yr abacws cyntaf.[7]
Ar wahân i Mesopotamia, milenia'n ddiweddarach, fe'i caed yn yr Aifft. Gwyddom hyn oherwydd cofnod gan Herodotus (c.485 CC - 425 CC) sy'n nodi eu bod yno'n defnyddio "cerrig bychan o'r dde i'r chwith - cyfeiriad hollol wahanol i'r hyn a wnawn yng Ngwald Groeg". Canfuodd archaeolegwyr nifer o gerrig ar ffurf disgiau a ystyrir yn rannau o'r abacws.[8]
Gwyddom hefyd i'r Persiaid ddefnyddio'r abacws tua 600 CC.[9] Ni chyrhaeddodd Wlad Groeg tan 5CC.[10]
|deadurl=
ignored (help)CS1 maint: ref=harv (link)