Clodia yn cyhuddo ei chyn-gariad Marcus Caelius Rufus o geisio ei gwenwyno. Rhoir Caelius Rufus ar ei brawf, ond diolch i ymdrechion ei amddiffynnwr, Marcus Tullius Cicero, fe'i ceir yn ddieuog.
Iŵl Cesar yn gorchfygu llwyth Llydewig y Veneti; y brif fwrydr yw un rhwng y ddwy lynges yng Ngwlff Morbihan.
Imanuentius, brenin y Trinovantes yn ne-ddwyrain Lloger yn cael ei ddiorseddu a'i ladd gan Cassivellaunus. Mae Mandubracius, mab Imanuentius, yn ffoi at Iŵl Cesar yng Ngâl i ofyn cymorth.