20g - 21g - 22g
1960au 1970au 1980au 1990au 2000au - 2010au - 2020au 2030au 2040au 2050au 2060au
2007 2008 2009 2010 2011 - 2012 - 2013 2014 2015 2016 2017


Digwyddiadau

Ionawr

Chwefror

Mawrth

Ebrill

Mai

Mehefin

Gorffennaf

Awst

Medi

Hydref

Tachwedd

Rhagfyr

Tywydd

Crynodeb tywydd Penisarwaun 2012
Mae'r hen drigolion yn cofio gaeafau 1947, 1963 ac 1979 oherwydd y tywydd oer gydag eira a rhew am wythnosau, gyda'r afonydd a'r llynnoedd wedi rhewi. Heb os mi fydd 2012 hefyd yn aros yn cof oherwydd y glaw di-baid. Cawsom 1888mm. a hwnnw'n disgyn arnom ar 242 o ddyddiau o'r flwyddyn. Serch hynny y flwyddyn wlybaf yn y cyfnod 1984-2012 oedd 2000 pan dadlwythodd y cymylau 1959mm.arnom. Fe ddaeth y glaw trwm yn ystod Hydref, Tachwedd a Rhagfyr, ond yn 2012 daeth bron ar hyd y flwyddyn. ...Ac mae y diwrnod gwlybaf yn hysbys i bawb sef yr 22 o Dachwedd pan gwelsom 64mm hynny yw 2.5 modfedd yn dod i lawr ar ein pennau.[3]

Roedd y flwyddyn yn drychinebus i amaethwyr.[1]

Llyfrau

Gweler Llenyddiaeth yn 2012

Cerddoriaeth

Albymau

Celf

Genedigaethau

Marwolaethau

Gwobrau Nobel

Eisteddfod Genedlaethol (Bro Morgannwg)

Y tywydd yng Nghymru

Dyma ychydig o ansoddeiriau parchus am haf 2012: glawog, cymylog, gwyntog, diflas, undonog, gyda bwrw, haul yn aml ac ambell i daran. Roedd yr haf yn wlypach na hyd yn oed haf 2007 pan gawsom 476 mm o law [tua 19 modfedd]. Eleni daeth 511mm [20 modfedd] i lawr ar y pentref [Penisarwaun]; 243.5mm ym Mehefin, 132.5mm yng Ngorffennaf a 135mm yn Awst, a hynny ar 70 ddyddiau allan o 92. Ar ben hyn oll ni chafwyd llawer o ddyddiau poeth. Yr unig ddiwrnod poeth oedd yr 11eg o Awst pan aeth y tymheredd i fyny i 24.6C. Gyda llaw yn ystod haf 2011, 49 o ddyddiau gyda glaw a gawsom.
Gwnaed yr haf yn fwy llwm oherwydd absenoldeb nifer o greaduriaid: ee. 1. Y fuwch goch gota; 2. sboncyn [sioncyn] y gwair o unrhyw fath; 3. gloynod byw onibai am y gwynion; 4. pry llwyd a'i bigiad distaw. Ar yr ochr orau o'r haf oedd ymweliad y barcut coch wrth yr hen ysgol a gardd yn Nhanycoed, LLanrug yn lloches i ddraenog. A braf oedd gweld llyffant du y dafedennog yn yr ardd acw. Hefyd bu adar y to yn llwyddiannus yn magu teulu yn nho y modurdy. Roedd gwennol y bondo hefyd yn llwyddiannus yn magu teulu ym mondo ty gerllaw.[5]

Cawsom fis gwlyb, diflas, a gwyntog. Y diwrnod gorau oedd yr un olaf o’r mis pan aeth y tymheredd i fyny i 16.6C (62.F); fel arall isel oedd tymheredd y prynhawnau. Hefyd nid aeth hi’n oer iawn; yr isaf oedd 0.3C ar y 4ydd o’r mis. Yn sicr yr oedd Ebrill yn fis gwlyb iawn gyda 24 ddyddiau efo glaw a chawsom drochiad o 159.5mm [6 modfedd] ohono. Dim ond un Ebrill sydd wedi bod wlybach ers 1984 a hwnnw oedd Ebrill 2005 gyda 179.5 mm. Cofiwch nid yw Ebrill yn fis gwlyb o gwbl; yn 2010 dim ond 14.5mm o law a gafwyd. Ar y 3ydd o’r mis yr oedd eira ar y mynydd tros 3000 tr. ond drannoeth cawsom dywydd stormus gydag eira dros 700tr. Yma bu ychydig o eira, eirlaw a modfedd o law. Ar y mynyddoedd yr oedd hi’n dymhestlog iawn yn peri i’r eira ffurfio lluwchfeydd anferth a bu nifer ohonynt yn llechu yma ac acw hyd at y diwrnod olaf o’r mis ac yna i fis Mai. Gan fy mod yn son am Ebrill, mae’n braf cael enwi rhai o’r blodau a fu’n addurno ymyl ein ffyrdd; bwtsias y gog, llygad Ebrill, botwm crys, blodyn llefrith, suran y coed, dant y llew, blodau’r ddraenen ddu, cywion gwyddau, blodau,r helygen, crinllys, ceiriosen, mefus gwyllt a braidd cyn ei amser, llau’r offeiriad. Yr oeddwn wrth fy modd yn gweld wenci/bronwen yn croesi’r ffordd yn ddiofn wrth ymyl Perthi. Ond y siom o’r mwyaf oedd y ffaith nad yw’r wennol na gwennol y bondo wedi gweld yn dda ddod yma i gyfarch y gwanwyn. Mae’r wennol wedi cyrraedd Ceunant, a’r gog. Mi wn i am un wedi tynnu llun y gog yn ei ardd. Yma rydym wedi colli’r gog, y wennol y gylfinir ac yn eu lle nhw cael yr aderyn swnllyd, y durtur dorchog.”

Cysylltiadau

  1. BBC Newyddion
  2. BBC Newyddion, 31 Gorffennaf 2012
  3. Y meteorolegydd Les Larsen ym Mwletin Llên Natur rhifyn 61
  4. "Marina and the Diamonds top the album chart with Electra Heart". BBC News. 7 Mai 2012. Cyrchwyd 8 Mai 2012.
  5. Data ac argraffiadau Leslie Larsen ym Mwletin Llên Natur rhifyn 56
  6. Bwletin Llên Natur rhifyn 52