Pelican Dalmatia Pelecanus crispus | |
---|---|
Statws cadwraeth | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | |
Urdd: | Pelecaniformes |
Teulu: | Pelecanidae |
Genws: | Pelicanod[*] |
Rhywogaeth: | Pelecanus crispus |
Enw deuenwol | |
Pelecanus crispus | |
Dosbarthiad y rhywogaeth |
Aderyn a rhywogaeth o adar anferthol yw Pelican Dalmatia (sy'n enw gwrywaidd; enw lluosog: pelicanod Dalmatia) a adnabyddir hefyd gyda'i enw gwyddonol Pelecanus crispus; yr enw Saesneg arno yw Dalmatian pelican. Mae'n perthyn i deulu'r Pelicanod (Lladin: Pelecanidae) sydd yn urdd y Pelecaniformes.[1] Mae i'w ganfod o dde-ddwyrain ewrop i India a Tsieina ac yn nythu mewn corsydd a llynnoedd bâs. Tyfiant fel hen frwgaits ydy'r nyth fel arfer.
Talfyrir yr enw Lladin yn aml yn P. crispus, sef enw'r rhywogaeth.[2]
Nid oes ganddo berthynas agor ond credir fod y Pelecanus crispus palaeocrispus sydd bellach wedi'u difodi yn is-deulu; canfyddwyd ffosiliau y Pelecanus crispus palaeocrispus yn Binagady, Aserbaijan.
Dyma'r pelican mwyaf o ran maint gan fesur 160 – 183 cm (5 tr 3 modf - 6 tr 0 modf) ac yn pwyso 7.25–15 kg (16.0–33.1 pwys) ac mae adenny agored yr oedolyn yn 290–345 cm (9 tr 6 modf – 11 tr 4 modf).[3][4][5]
Mae'r pelican Dalmatia yn perthyn i deulu'r Pelicanod (Lladin: Pelecanidae). Dyma rai o aelodau eraill y teulu:
Rhestr Wicidata:
rhywogaeth | enw tacson | delwedd |
---|---|---|
Pelican Awstralia | Pelecanus conspicillatus | |
Pelican Dalmatia | Pelecanus crispus | |
Pelican Periw | Pelecanus thagus | |
Pelican brown America | Pelecanus occidentalis | |
Pelican gwridog | Pelecanus rufescens | |
Pelican gwyn | Pelecanus onocrotalus | |
Pelican gwyn America | Pelecanus erythrorhynchos | |
Pelican llwyd | Pelecanus philippensis |