Math | Cerbyd trydan batri, car |
---|---|
Y gwrthwyneb | Q124351225 |
Rhan o | electromobility |
Yn cynnwys | Batri |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae'r car trydan yn gerbyd sy'n cael ei yrru gan fotor trydan gan ddefnyddio ynni trydan wedi'i storio mewn batri, cell solar neu ddyfais ynni arall. Mae ceir sy'n dibynnu ar drydan yn sydyn a pharod o ran ei drorym (torque) a cheir cyflymiad (acceleration) esmwyth iawn. Ymhlith y gwahanol fathau o geir trydan mae: ceir trydan cell danwydd, ceir celloedd solar, ceir trydan batri a cheir trydan heibrid.
Yn y 1880au yr ymddangosodd y car trydan yn gyntaf.[1] Daethant yn boblogaidd iawn ar ddiwedd y 19eg ganrif ac yna eto ar gychwyn yr 21g. Yn y 1920au gwelwyd datblygiadau technegol cerbydau gasolîn (neu betrol fel y dywedir heddiw) a hynny ar raddfa fawr oherwydd dulliau newydd o fasgynhyrchu'n rhad. Roedd hyn yn hoelen yn arch y car trydan. Un o ganlyniadau yr argyfwng ynni bydeang yn y 1970au a'r 1980au oedd cynnydd aruthrol yn niddordeb pobl yn y car trydan, ond sêr gwib oedd y datblygiadau amgen hyn ac ni chyrhaeddod y ceir y farchnad.
Ym Mehefin 2014 roedd ceir trydan batri tipyn yn ddrytach na cheir arferol oherwydd pris uchel y batri lithiwm,[2] ac y Nissan Leaf oedd y car trydan a oedd wedi gwerthu mwyaf: dros 130,000. Erbyn Medi 2015 roedd dros 30 o fodelau ceir a faniau trydan-yn-unig ar gyfer busnesau. Rhwng 2008 a Medi 2015 gwerthwyd cyfanswm o un miliwn o gerbydau trydan.[3] Y car trydan mwyaf poblogaidd yw'r Nissan Leaf, a lansiwyd yn Rhagfyr 2010 ac a werthir mewn 46 o wledydd. Hyd at Rhagfyr 2005 gwerthwyd dros 200,000; yr ail gar mwyaf poblogaidd yw'r Tesla Model S, a ryddhawyd ym Mehefin 2012, ac a werthwyd dros 100,000 o unedau ledled y byd.[4][5]
Gwelwyd oes aur y car trydan ar dorriad yr 21g, gyda'r car poblogaidd cynta'n cyrraedd y stryd yn 2008. Mae sawl rheswm dros hyn, gan gynnwys datblygiadau aruthrol yn nhechnoleg y batri, dulliau newydd o reoli'r pŵer a phryder ynghylch prisiau a rheolaeth cyflenwadau olew'r byd law yn llaw â phryder am yr amgylchedd.[6] Mae sawl llywodraeth bellach yn ariannu cynlluniau i hyrwyddo ceir trydan, i leihau carbon deuocsid.
Rhwng 1890 a 1920 roedd ceir trydan yn boblogaidd mewn sawl gwlad, oherwydd eu bod yn fwy cyfforddus na cheir petrol ac yn haws i'w gyrru.[7] Ond byr iawn oedd eu taith ar lond batri o drydan, llawer llai na llond tanc o betrol, a dirywiodd gwerthiant y car trydan o'r herwydd. Roedd y car trydan hefyd yn cymryd llawer iawn mwy o amser i'w ail-lenwi, o'i gymharu â chydig munudau i roi llond y tanc o betrol.
Ar ddiwedd y 19eg ganrif gwelwyd llawer o dacsis yn rhedeg ar fatris trydan; cynlluniodd Walter C. Bersey dacsis ar gyfer strydoedd Llundain yn 1897 a galwyd nhw'n Hummingbirds oherwydd eu sŵn hymian.[8] Yn yr un flwyddyn, cychwynodd Samuel's Electric Carriage and Wagon Company redeg 12 o dacsis yn efrog Newydd[9] ac yn ei anterth,yn 1898, bu ganddo 62 cab a newidiwyd enw'r cwmni yn The Electrical Vehicle Company..[10]
Ym 1911 cyhoeddodd y New York Times fod y car trydan yn "ddelfrydol" gan ei fod yn llawer glanach, tawelach ac yn fwy economegol i'w redeg na cheir gasolîn.[11] Ar y llaw arall, barn y Washington Post yn 2010 oedd fod i'r car trydan ormod o broblemau, fel ag yr oedd yn nyddiau Thomas Edison."[12]
Cychwynodd gwneuthurwr ceir trydan Tesla Motors, Califfornia ar gar trydan Tesla Roadster yn 2004 a chyrhaeddodd y cwsmer yn 2008. Erbyn Mawrth 2012 roedd wedi gwerthu 2,250 Roadsters a hynny mewn 31 o wledydd; nifer bychan iawn o'i gymharu a'r ceir petrol a werthwyd yr amser hwnnw.[13] Yna yng Ngorffennaf 2009 lansiwyd y Mitsubishi i MiEV i gwmnioedd yn Japan ac i gwsmeriaid unigol yn Ebrill 2010.[14][15][16] ac i gwsmeriaid yn Awstralia yng Ngorffennaf 2010 ar brydles.[17] Cychwynwyd allforio'r Nissan Leaf o Japan i'r Unol Daleithiau America yn Rhagfyr 2010.[18][19] ac yna yn 2011 i nifer o wledydd Ewropeaidd a Chanada.[20][21]
Er gwaethaf agwedd draddodiadol negyddol Unol Daleithiau America yn erbyn lleihau carbon deuocsid, yn 2011 gosododd yr Arlywydd Barack Obama darged o un filiwn o geir trydan ar ffyrdd yr UDA erbyn 2015.[23] Ymhlith yr amcanion dros wneud hyn roedd lleihau dibyniaeth y wlad ar olew ac er mwyn sicrhau eu bod yn arwain y decholeg er mwyn allforio ceir."[24]
Yn 2011 lansiwyd: Smart electric drive, Wheego Whip LiFe, Mia electric, Volvo C30 Electric, a'r Ford Focus Electric ar gyfer cwsmeriaid unigol.
Lansiwyd y Bolloré Bluecar yn Rhagfyr 2011 fel rhan o wasanaeth "rhannu car" ym Mharis,[25] ac yna i gwsmeriaid unigol yn Hydref 2012.[26]
Yn Chwefror 2011 y Mitsubishi i MiEV oedd y car trydan cyntaf i werthu dros 10,000 o unedau. Ychydig fisoedd wedyn, goddiweddwyd y gwerthiant hwn gan y Nissan Leaf fel y car trydan a werthwyd fwyaf erioed.[27]
Yn 2012 a 2013 daeth y canlynol i'r farchnad: BMW ActiveE, Coda, Renault Fluence Z.E., Tesla Model S, Honda Fit EV, Toyota RAV4 EV, Renault Zoe, Roewe E50, Mahindra e2o, Chevrolet Spark EV, Fiat 500e, Volkswagen e-Up!, a'r BMW i3. Gwerthwyd dros 50,000 o'r Nissan Leaf erbyn Chwefror 2013[28] a 100,000 erbyn Ionawr 2014.[29]
Ym Mehefin 2014 cyhoeddodd Tesla Motors eu bwriad i roi eu patentau a'u cyfrinachau technolegol ar drwydded rhydd ac agored.[30] Yn wahanol i wneuthurwyr ceir trydan eraill, mae Tesla Motors yn defnyddio batris gliniaduron ar gyfer eu ceir gan fod eu pris dipyn yn llai: rhwng 3 a 4 gwaith yn rhatach.
Y mathau mwyaf poblogaidd o geir traffordd rhwng 2008 a Rhagfyr 2016(1) | |||
---|---|---|---|
Model | Lansiwyd | Gwerthiant bydeang |
Gwerthiant hyd at |
Nissan Leaf[31] | Rhagf 2010 | + 250,000 | Rhagf 2016 |
Tesla Model S[31] | Mehef 2012 | + 158,000 | Rhagf 2016 |
BMW i3[5] | Tach 2013 | ~ 65,500(2) | Rhagf 2016 |
Renault Zoe | Rhagf 2012 | 61,205 | Rhagf 2016 |
Cyfres BAIC EV[32][33][34][35] | 2012 | 42,646(3) | Rhagf 2016 |
Cyfres Mitsubishi i-MiEV[36] | Gorff 2009 | ~ 37,600 | Mehef 2016 |
BYD e6[32][33][35][37][38] | Hydr 2011 | 34,862(3) | Rhagf 2016 |
Tesla Model X[5] | Medi 2015 | 25,524 | Rhagf 2016 |
Renault Kangoo ZE | Hydr 2011 | 25,205 | Rhagf 2016 |
Volkswagen e-Golf[39][40][41][42][43] | Mai 2014 | 24,498(4) | Mehef 2016 |
Cyfres JAC J3/iEV[32][33][34][44][45][46] | 2010 | 23,241(3) | Mehef 2016 |